Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 2

Goiawn Ltd

Antur Amser: Y Fideo Diogelwch

Antur Amser: Y Fideo Diogelwch

Pris rheolaidd £3.99 GBP
Pris rheolaidd £4.99 GBP Pris gwerthu £3.99 GBP
Gostyngiad Wedi'i werthu allan
Trethi wedi'u cynnwys. Postio yn ei gyfrifo wrth dalu.
Llyfr

Nofel graffeg (7-11 oed) gyda stori antur sci-fi yw hon am Gruff a Gwen, efeilliaid anhygoel sy'n byw ar y Blaned Mawrth yn y flwyddyn 2124, yn gwneud popeth o fewn eu gallu i glirio enwau eu rhieni.

A fyddan nhw’n llwyddo i gael gafael ar y fideo diogelwch i glirio enwau eu rhieni?

Neu a fyddan nhw’n cael eu dal yn dwyn oddi wrth y cwmni mwyaf pwerus ar y Blaned Mawrth?

Ac a fydd Gruff yn dod o hyd i'r pecyn o fisgedi a guddiodd o dan ei wely bythefnos yn ôl?

 

Darllenwch ymlaen i ddarganfod y dyfodol ...

7-11 oed

Yn cynnwys cyfarwyddiadau arlunio cymeriad a her creu comig.

Dyma fersiwn darllen er pleser o'r gyfres llyfrau addysgol. Os ydych yn chwilio am lyfrau addysgol ar gyfer ysgolion, ewch i'r adran addysgwyr.

Gweld manylion llawn