CYSTADLEUAETH YSGRIFENNU

Wyt ti’n hoffi meddwl am storïau?

Ydy dy ben di’n llawn syniadau gwych a gwallgo? 

Beth am roi cynnig ar gystadleuaeth Antur Amser?

Gallet ti ennill gwobr arbennig ... llyfr jôcs Iwan Pitts - wedi'i lofnodi!!

 

 

I gystadlu, bydd angen i ti orffen stori Mia, y robot bach anghredadwy.

Galli di wneud hyn mewn ffordd sy’n dy siwtio di:

 

Comic

Creu comic gan defnyddio lluniau i ddweud y stori.

Dyma ddechrau'r comic i ti: agor y comic

 

Stori Fer

Ysgrifennu’r stori fer.

Neu, os wyt ti’n hoffi llyfrau fel Dyddiadur Dripsyn a Twm Clwyd, beth am gynnwys cartwnau doniol yn dy stori, fel y llyfrau hynny?

Dyma ddechrau'r stori fer i ti: agor y stori

 

 

Bydd y beirniaid yn edrych am syniadau gwreiddiol a ymdrech dda.

Y dyddiad cau yw 31 Ionawr 2025 @ 12:00

Gofynnwch i'ch rhieni gyflwyno eich cais gan ddefnyddio'r ffurflen isod.

Canlyniad yn cael ei gyhoeddu ar y 1 Chwefror 2025.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i blant 7–11 oed.

Pob lwc!

 

Athrawon - cysylltwch a post@goiawn.co os ydych am gyflwyno ceisiadau ar gyfer eich dosbarth.

Manylion y gystadleuaeth

Format

Gellir cyflwyno'r stori neu'r comic gan ddefnyddio unrhyw fformat ffeil (e.e. .JPG .PDF .DOC .TXT).