Ten innovative projects funded by Adnodd

Deg prosiect arloesol wedi'u hariannu gan Adnodd

Mae Goiawn yn rhedeg un o ddeg prosiect addysg greadigol a gafodd cyllid gan Adnodd i archwilio dulliau newydd o ddatblygu adnoddau addysgol. Daw'r cyllid o Gronfa Arloesi a Chydweithio newydd gwerth £50,000, a gynlluniwyd i sbarduno syniadau beiddgar i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru.

Cyflwynodd Goiawn gynnydd y prosiect yn ddiweddar, sy'n cynnwys ymchwilio i'r rhagdybiaeth y bydd y weithred o greu drama ar y cyd yn helpu plant i ymgysylltu a gwerthfawrogi themâu cydraddoldeb, gwrth-hiliaeth a lles.

https://adnodd.llyw.cymru/diweddaraf/newyddion-adnodd-yn-dyfarnu-50000-i-ddeg-prosiect-arloesol-a-chydweithredol-ledled-cymru/

Yn ogystal â'r cyllid o'r Gronfa Arloesi a Chydweithio, mae prosiect Goiawn yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, gan anelu at wella addysg trwy ddulliau arloesol.

Mae'r tîm yn cynnwys:

Osian Evans - Cynhyrchydd Digidol
Nia Dooley a Nia Jewell (Y Pethau Bychain) - arbenigwyr llesiant
Catrin Evans-Thomas (Peniarth, PCYDDS) - arbenigwr addysg
Olaitan Olawande - arbenigwr cydraddoldeb
Eiry Miles - arbenigwr llythrennedd
Alison Glover - arbenigwr ymchwil
Maileigh Holdstock - artist gweledol
Yn ôl i'r blog